Ofer i mi wel'd y ddaear Yn egino'i hegin grawn, Ofer i mi wel'd yr heulwen Fawr yn estyn ei phrydnawn, Ofer i mi wel'd y blodau Yn dadguddio'u dirif liw, Tra fo neb rhyw un creadur Yn cysgodi gwedd fy Nuw. Ymwêl, Arglwydd, â phererin Sydd yn teithio tua thref, Ac a flinodd ar y ddaear, Heddyw'n brefu am y nef; Tyred, heulwen glir, disgleiria, Ni saif cwmmwl lle bo'th ras, Storom gref a dry'n dawelwch, Fel y gallom rodio i maes. O! pa bryd caf wel'd dy wyneb, Oll yn heddwch, oll yn ras, Heb un pechod yn fy nghlwyfo, Nac yn dirgel gario'r maes, Heb un llen rhyngof a'r bywyd, Nac un ysbryd marw, syth, Heb un waedd yn fy nghydwybod, Ond tangnefedd pur dilyth? Bryd caf wel'd y tir dymunol, Hyfryd baradwysaidd wlad, Lle mae brodyr i mi filiwn, Lle mae 'Mhriod, lle mae 'Nhad, Lle caf orphwys o fy llafur, Lle caf wella'm clwyf a'm briw, A chael gwledd dragwyddol, gysson, Fyth yn nghwmni'm Tad a'm Duw?William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Bryd ca'i wel'd y tir dymunol Capten mawr ein hiechydwriaeth O pa bryd câf wel'd dy wyneb? |
Vain for me to see the earth Sprouting shoots of grain, Vain for me to see the great Sunshine extending its afternoon, Vain for me to see the flowers Revealing their countless colours, While no kind of creature be Shadowing the countenance of my God. Visit, Lord, a pilgrim Who is travelling towards home, And who wearied of the earth, Today bleating for heaven; Come, clear sunshine, shine thou, No cloud shall stand where thy grace be, A strong storm shall turn into stillness, That we may walk forth. O when may I get to see thy face, All peace, all grace, Without any sin wounding me, Nor secretly carrying the field, Without any curtain between me and the life, Nor any dead, stiff spirit, Without any shout in my conscience, But pure, sincere tranquility? When may I get to see the desirable land, A delightful paradisical country, Where there are a million brothers for me, Where my Spouse is, where is my Father is, Where I may rest from my labour, Where I may heal my wound and my bruise, And get an eternal, constant feast, Forever in the company of my Father and my God?tr. 2019 Richard B Gillion |
|